HELO….a chroeso i PLACID CASUAL CYF.
Label recordiau yw PLACID CASUAL – fe'i sefydlwyd ‘nol yn y ganrif ddiwethaf gan SUPER FURRY ANIMALS.
Rhyddhau recordiau – yn achlysurol ac yn hollol fympwyol – yw unig amcan Placid Casual…caneuon a cherddoriaeth a fasai, efallai, yn cael eu hanwybyddu…meddai Super Furry Animals :
“Mae'r recordiau yma'n llawn o'n ffrindiau ni, ynghyd a rhai gan bobl y cwrddon ni ar hyd y ffordd ( ac a ddaethant yn ffrindiau )”.
Fel ‘cwmni', os oes polisi gweithredu gyda ni…dos neb yn cofio'n iawn beth yw e…..fe sgwenwyd rhywbeth pwysig ar ddarn o bapur unwaith, ond roedd hi'n ddiwrnod gwyntog… |