Gruff Header Info

English ~ Cymraeg




Placid Casual
Gruff with guitar
 

Gruff Rhys ~ Yr Atal Genhedlaeth

Yr Atal Genhedlaeth   Ni Yw Y Byd/Gwn Mi Wn

Bydd Placid Casual yn rhyddhau albym unigol gan Gruff Rhys ar y 24ain o Ionawr, 2005. Recordiwyd 'Yr Atal Genhedlaeth' yn ysbeidiol rhwng Haf 2003 a Gwanwyn 2004 gyda Gorwel Owen yn Stiwdio Ofn, Ynys Mon.

Daeth 'Yr Atal Genhedlaeth' at ei gilydd yn reit ddamweiniol...aeth Gruff i Ofn yn Haf 2003 i recordio rhyw ugain o ganeuon (demos)...roedd rhyw bump ohonynt yn swnio wedi gorffen fel ag yr oeddynt.

O hynny deilliodd y syniad o recordio albym gyfan yn yr un ysbryd a'r caneuon yma...rhwng Awst 2003 a Chwefror 2004 daeth pum can arall.

Felly, yn y pendraw, cymerwyd rhyw wythnos i recordio a rhyw bum diwrnod i gymysgu. A dyna fel y bu.

Gruff sy’n gyfrifol am offeryniaeth y caneuon – heblaw am y twmped ar 'Ambell Waith' (Edwin Humphries) a'r banjo ar 'Chwarae'n Troi'n Chwerw (Gorwel Owen). Hefyd mae Bili Jinx yn ymddangos fel MC D. Chwaeth ac yn gweiddi’i enw ynghanol “ Gwn Mi Wn”.

Cyn yr albym, ar Ionawr 17eg rhyddheir sengl 7" modfedd gyda dwy Ochr-B (PLC11): 'Gwn Mi Wn' a 'Ni Yw Y Byd'.

Bydd fersiwn gyntaf “Yr Atal Genhedlaeth” yn dod ar ffurf CD a feinil 12” mewn pecynnau cyfyngedig arbennig ( wedi’u dylunio a’u creu gan Mark James ).

 

Gruff Rhys ~ Cyngherddau Mis Chwefror 2005

Gruff Rhys + Alun Tan Lan + Kerrdd Dant + Andy Votel

February 10 Theatr Colwyn, Colwyn Bay (Tickets: 01492 532 668 & 01492 872 000)
February 11 Theatr Ardudwy, Harlech (Tickets: 01766 780 667)
February 13: Sherman Theatre, Cardiff (Tickets: Ticketline 029 20 230 130, See Tickets 0115 912 9000, gigsandtours.com)
February 14: Theatr Y Werin, Aberystwyth (Tickets: 01970 623 232)

NB Any tickets bought for Penarth Paget Rooms are now valid for the Sherman Theatre date.

 

Yr Atal Genhedlaeth ~ Sound Clips

Bydd angen Real Player arnoch i wrando ar y clipiau 60-eiliad yma.

Real Audio Gwn Mi Wn Real Audio Y Gwybodusion
Real Audio Epynt Real Audio Caerffosiaeth
Real Audio Rhagluniaeth Ysgafn Real Audio Ambell Waith
Real Audio Pwdin Wy 1 Real Audio Ni Yw Y Byd
Real Audio Pwdin Wy 2 Real Audio Chwarea'n Troi'n Chwerw

Yr Atal Genhedlaeth ~ Geiriau

Gwn Mi Wn. Gwn mi wn fod y byd yn grwn Dw i’n saethu hwn fel bwled o wn Dw i’n saethu ngair fel bwled o wn Dw i’n saethu hwn fel bwled o wn Fi ‘di Glyn Kysgod Angau A fi ‘di D. Chwaeth Mynd i bob twll a chornel fel tywod ar y traeth Saethu ein brawddegau gyda bwa a saeth Llenwi ein bywydau a daioni a maeth Gwn mi wn fod y byd yn grwn Dw i’n saethu hwn fel bwled o wn Dw i’n saethu ngair fel bwled o wn Dw i’n saethu hwn fel bwled o wn Bwyta creision yd gyda chwrw nid llaeth Brwydro i ryddhau ein
cyfeillion sy’n gaeth Heb honni fod ein bywyd yn well nag yn waeth Na’r bobl sydd yn derbyn ein geiriau ffraeth Gwn mi wn fod y byd yn grwn Dw i’n saethu hwn fel bwled o wn Dw i’n saethu ngair fel bwled o wn Dw i’n saethu hwn fel bwled o wn EPYNT: e Epynt, Epynt Mae’r dewis yn dod yn gynt ac yn gynt Wyt ti isho brenhines Neu hen awdures? Epynt, Epynt Calonnau’n curo yn gynt ac yn gynt Wyt ti isho dyfodol? Neu dim ond gorffennol? Gwario, gwario Beth sy’n well gen ti wario, wario? Dy blastig neu bapur, Neu dim o gwbl. Dewis, dewis Dyro i mi fy newis, newis. Dw i’n dewis dim, Dim dime, dim Rhagluniaeth Ysgafn. O dyro i mi Ragluniaeth Ysgafn Rhagluniaeth ysgafn Rhagluniaeth ysgafn Mor ysgafn a’r awel fwyn A phan ddaw’r amser i gael fy marnu O! Cym i ystyriaeth fy nghyfraniad i’r achosion da, Ac er yr holl deithio, Y llwgr-wobrwyo, Y cyffuriau caled, Y merched o bedwar ban Dw i wedi hen flino Ar fy mhwdr areithio, Yr holl ddanteithio, Fy mrad o iaith y nef, Y rhegi cyhoeddus, Y lluniau anweddus, Fy nghabledd o flaen y groes, Yr hunan-dosturi, Y cwrw a’r miri, Fy ofer-ymffrostio, Tra’n rhostio yn y gwledydd poeth. A phan ddaw’r cyfweliad, Erfynaf am fynediad, Drwy lidiart y nefoedd I’r cyfoeth ar yr ochr draw.A chym i ystyriaeth, Er gwaethaf fy mhechodau, Fy holl rinweddau, Sy’n rhifo ar un llaw. Ond beth bynnag dy farn, Erfynaf am: Ragluniaeth ysgafn, Rhagluniaeth ysgafn Rhagluniaeth ysgafn Mor ysgafn a phluen dryw Pwdin Wy 1. Pwdin Wy, Pwdin Wy,Wyt ti’n caru fi mwy na dy gariad d’wetha? Ti’n gwybod be i ‘neud pan dw i eisiau mwythau. O! Pwdin Wy, Dw i isho mwy a mwy Pwdin Wy, Pwdin Wy Mae’r meddygon yn dweud dylswn fwyta ffrwythau, Dw i ddim eisiau triniaeth gas na phwythau. O! Pwdin Wy Dw i isho mwy a mwy a mwy a mwy, Mwy a mwy a mwy a mwy. Pwdin Wy Pwdin
Wy Mae fy nghalon yn drwm gyda ngofidion Dw i’n poeni am y coryn mawr a’i bigion O! Pwdin Wy Dw i isho mwy a mwy amwy a mwy... Pwdin Wy 2. Pwdin Wy, Pwdin Wy Gelyn yw dy glwy Pwdin Wy, Pwdin Wy, Misoedd o dy blwyf Unig yw dy gri, Unig yw dy gri, Deud dy ddeud, dwed dy wir, Dan dy wynt, Pa mor unig yw dy gri? Dyna ni, dyna ni, Dyna ‘i diwedd hi Cofia fi, cofia ni, Terfyn dirion ddu Hwyrnos dirion ddu, Hwyrnos ddu a fu, Deud dy ddeud, dwed dy wir, Dan dy wynt Pa mor unig yw dy gri? Unig yw dy gri, Unig yw dy gri, Deud dy ddeud, dwed dy wir, Dan dy wynt, Pa mor unig yw dy gri? Pa mor unig yw ein cri? Y Gwybodusion. Ble mae’r gwybodusion? Chwilio am atebion Ble mae’r mor-ladron? Lladrata’r moroedd dyfnion! Gwybodusion, Ble mae’r gwybodusion? Caerffosiaeth. Adeiladau mileniwm, Mewn ffug alminiwm, Goruwch-ystafelloedd Am hanner miliwn o bunnoedd. Tyfwn adenydd Tra’n yfed Ymennydd, Mewn tafarndai thema A dim golwg o’r Wyddfa Dw i’n byw a bod Dw i’n byw a bod Arnofio yn y bae Yn y baw a’r dod Coffi ewynnol, Cyflog derbyniol, Argae uffernol, Sgidiau ffasiynol, Saeri Rhyddion Yn rhedeg byrddion, Cyhoeddus, anweddus, Sefyllfa druenus. Dw i’n byw a bod, Dw i’n byw a bod, Arnofio yn y bae Yn y baw a’r dod Dw i’n rhan o’r atal genhedlaeth, Ymfudwn o amaeth, O gefn gwlad i Gaerffosiaeth, O gefn gwlad i Gaerffosiaeth Dw i’n byw a bod, Dw i’n byw a bod, Arnofio yn y bae,Yn y baw a’r dod. Ambell Waith. Codi’n fore i osgoi’r lli, Moduro’n gyflym i bendraw’r byd. Deffro’n fore mewn dinas bell, Cynefino mewn cwmwl saethug. Pen y daith, Hiraeth, Ambell waith. Llygru’r moroedd gwyrddion llawn pysgod prin, Malu’r awyr a
phoeni dim, Credwn bopeth ar y teledu a gwyn, Nodwn fod y byd mewn lliwiau, Ambell waith, Hiraeth, Ambell waith Ni Yw Y Byd. Ni yw y byd, Ni yw y byd, Glynwn fel teulu achos Ni yw y byd. Ni yw y byd, dewch bawb ynghyd, Paratown am chwyldro achos Ni yw y byd.
Ni yw y byd, Ni yw y byd, Yfwn ein cwrw achos Ni yw y byd. Ni yw y byd dewch bawb ynghyd, Lluchiwn ein gwydrau achos Ni yw y byd Ni yw y byd, Ni yw y byd, Carwn ein gelynion achos Ni yw y byd. Ni yw y byd, dewch bawb ynghyd, Tynnwn ein dillad achos Ni yw y byd. Ni yw y byd, Ni yw y byd, Dryswn ein cyfoedion achos Ni yw y byd. Ni yw y byd, dewch bawb ynghyd, Gwaeddwn yn llawen achos Ni yw y byd. Fyny! Fyny! Fyny! Fyny! Fyny! Ni yw y byd, Ni yw y byd, Neidiwn i’r awyr achos ni yw y byd Ni yw y byd, dewch bawb ynghyd, Chwalwn ddisgyrchiant achos Ni yw y byd, Rowliwn yn y rhedyn achos Ni yw y byd. Rhyddhawn ein penblethau! Ni yw y byd, dewch bawb ynghyd, Paratown am chwyldro achos Ni yw y byd.