
teitl : ‘ FFA COFFI PAWB AM BYTH
’
- casgliad o ganeuon coll 1986 – 1992
DYDDIAD RHYDDHAU : 16eg o AWST
FFA COFFI PAWB – yn fras ( iawn )
Mae “FFA COFFI PAWB AM BYTH” yn casglu ynghyd,
mewn pentwr, ddetholiad o ganeuon a recordiwyd gan FFA COFFI
PAWB rhwng 1986 ac 1992.
Gan fod pethwmbreth o’r tapiau gwreiddiol ar goll
mewn mannau tywyll bu’n rhaid defnyddio amrywiaeth
o wahanol fformatiau ( casetiau plastig, feinil o wahanol
feintiau, siâp a chyflwr, tapiau DAT a mini-discs
) er mwyn gwireddu’r casgliad yma.
FFA COFFI PAWB oedd : Dewi Emlyn ( gitar fâs), Gruff
Rhys
( gitar a llais ), Dafydd Ieuan ( drymiau ) a Rhodri Puw
( gitar ).
Yn ystod gyrfa Ffa Coffi Pawb, fe gariwyd eu caneuon gan
sawl ffrwd – gan gynnwys label ‘Casetiau Huw’
, tair albym i ‘Recordiau Ankst’ , amryw o recordiau
12” ynghyd â’u label nhw eu hunain –
‘Siwgwr’.
Chwalodd y band yn ystod Haf 1993 – rai misoedd wedi
rhyddhau “Hei Vidal”.
Gyda threigl amser fe symudodd aelodau’r band i sawl
cyfeiriad cerddorol :-
Ffurfiodd Dafydd Ieuan a Gruff Rhys ‘Super Furry Animals’
gyda Huw Bunford a Guto Pryce ( gynt o ‘U-Thant’
) a Cián Ciaran ( gynt o Wwzz ).
Ymhen amser ymunodd Rhodri Puw gyda Gorky’s Zygotic
Mynci – gan chwarae ar “ How I Long To Feel
That Summer In My heart”, “The Blue Trees”
a “ Sleep / Holiday” .
Mae e hefyd yn rhan o Psycho VII.
Bu Dewi Emlyn yn teithio’n galed ac yn eang - yn gweithio
tu ol i’r llenni gyda bandiau fel Gorky’s Zygotic
Mynci, Super Furry Animals, Mogwai a Cornelius.
Rhywle rhwng ‘Hwgr Grawth Og’ , ‘Y
Brawd Houdini’, ‘White light White Heat’,
‘Maffia Mr Huws’ a chysgod Eryri - rhywle
fanna ma’ Ffa Coffi Pawb. Beth sydd i ddisgwyl gan
fand a esblygodd wrth droed y chwareli rhwng môr
a mynydd mewn pentref Cymreig a Chymraeg gyda’r
enw Hebraeg, Bethesda?
I fod yn bersonol. Roedd trefnu gig ysgol i Ffa
Coffi Pawb yn creu roblemau. Creu posteri a dosbarthu’r
posteri yna o gwmpas tref Llanr wst ac yn yr ysgol..a’r
posteri yna’n dweud ‘Ffa Coffi Pawb’!
Tri peth dw i’n cofio am y gig. Yn gyntaf cwyn gan
y band - roeddwn wedi cyfaddawdu trwy’u hysbysebu
nhw fel “Ffa Coffi”. Penaeth yr ysgol - yn
tynnu sylw at y perygl y gallai pobl gam-ddehongli enw’r
band fel rheg at y byd a’r betws, a finne’n
awgrymu’n gynnil mai’i ddychymyg e’
oedd ar fai.
Y band ( mewn cyfnod pan roedd pob gig yn werthfawr iddynt
), yn bygwth tynnu allan o’r noson ! Wedyn, y band
ar lwyfan. Dim ymdrech i gyfaddawdu. Ar ôl hanner
dwsin o ganeuon llawn cynnwrf di-reol gyda llinnyn yn
ymestyn o Galiffornia trwy Glasgow a Chaergybi i Fangor
Ucha’ a Nant Ffrancon... gadael y llwyfan gyda’r
gitarau ar lawr a feedback swnllyd yn llenwi’r lle.
Neb yn siwr a oedd y set wedi dod i ben neu beidio.
A’r trydydd peth ? Y sicrwydd bod y band yma’n
mynd i lwyddo. Dw i ddim yn cofio pwy oedd prif fand y
noson.
Llwyddiant. Ar awst 4ydd, 1987, cafodd FfCP £20 am chwarae yn Eisteddfod Porthmadog - y band cyntaf ar y llwyfan cyn Yr Orsedd, Edrych
Am Jiwlia, U-Thant, Tynal Tywyll a Y Cyrff yn headleinio!
Erbyn hynny roeddent wedi rhyddhau y caset cyntaf - “Torrwyr
Beddau Byd-Eang Cyf.” Roedd y swreal yna o’r
cychwyn - ac roedd yr hiwmor du’n
ganolog i fywyd y band. Dim syndod yn ddiweddarach yng
ngyrfa’r band bod pethau od yn digwydd - “Dw
i’n troi’n ffrwyth “. Digon teg.
Swreal. Anelu at lwyddiant trwy ryddhau “Octapws”
y caset 3-chân ar label Casetiau Huw. Cyfweliad
gyda Huw Gwyn ar Pier Bangor yn datgelu mai caset Ffa
Coffi Pawb a label Casetiau Huw oedd dyfodol y sîn
roc yng Nghymru. Adolygydd yn y cylchgrawn tanddaearol
‘Llmych’ yn deud y cyfan....”ces i sioc
- mae’r caset yma’n dda - na - yn dda iawn.
Falle bod nhw’n dechrau cymryd eu hunain o ddifri!”.
Efallai.
Dilyn hyn gyda Dafydd a Gruff yn ymuno gyda Dewi Gwyn
( Y Sefydliad ) a Huw Gwyn i ail-greu “Trip Dewi
Emlyn” ac yna Ffa Coffi Pawb yn rhyddhau’r
caset 10-cân, “Dalec Peilon” ( Casetiau
Huw ).
Diolch byth bod Ankst wedi dod i’r golwg i
sicrhau cynulleidfa ehangach i ganeuon Ffa Coffi Pawb
trwy ryddhau ‘Clymhalio’. ‘Cymryd Y
Pys’ a ‘Hei Vidal’.
Os oes un peth mae pob band yn anelu ato - y peth
hwnnw yw ei swn ei hunan. O’r cychwyn cyntaf roedd
y gymysgedd o gerddoriaeth a ddaeth danenw ‘Ffa
Coffi Pawb’ yn wahanol. Nid jest y gerddoriaeth
ond y defnydd o swn y geiriau a’r gallu I ddefnyddio
clapio dwylo, canu harmoni, gitarau jangli, geiriau di-eiriau
a tiwns.
Rwy’n herio chi i wrando ar y casgliad yma heb dorri
allan i ganu gyda’r band ar rai o’r caneuon.
Glynodd y band at fynnu bod cynulleidfaoedd yn
derbyn bod ganddynt weledigaeth amgenach na’r cyffredin
ond roedd y weledigaeth yma’n cynnwys creu tiwns
sy’n aros yn y côf ac yn mynnu gwthio I fewn
i’r ymennydd amseroedd od o’r dydd - a’r
nos. Y gwir amdani yw bod y caneuon wedi goroesi oherwydd
eu bod uwchlaw cyfnod a lle.
Un peth yw benthyg syniadau o gerddoriaeth sy’n
ymestyn dros dri degawd - peth arall yw’r gallu
i ddewis y syniadau gorau a chlymu i fewn ddychymyg i
greu rhywbeth unigryw.
Dyna beth oedd, ac yw, llwyddiant Ffa Coffi Pawb.
Dyna pam fod y gerddoriaeth yma’n goroesi amser.
Ar ddiwedd y gig yn Llandudno, nos Sul Awst 6ed,
1989 - Llwybr Llaethog, Ffa Coffi Pawb a Blodau Cyntefig
- rhuthro at y band i ddweud bod nhw’n ffantastig.
Rhodri Puw yn edrych yn syth i fy ngwyneb - “ Ble
ma’r arian ?”!
Digon teg - Lluchia dy fflachlwch drosta I, gafael yn
dynn ac off â ni i Sacramento - ond paid anghofio’r
Valium.
- Toni Schiavone ( Mai 2004 )
MANYLION Y CANEUON |