Acid CasualsArtist : ACID CASUALS

Teitl : OMNI

Label : PLACID CASUAL

Fformat : CD + ar gael o iTunes, napster, karmadownload.

Rhif catalog : PLC13CD

Dyddiad Rhyddhau : 30 Ionawr

…ac yna, death ‘OMNI’ – record hir gyntaf ACID CASUALS.
Cwlwm cydweithredol o artistiaid, cerddorion a chynllunwyr sydd wedi’i ganoli yng Nghaerdydd ond sydd â changhennau a bysedd mewn pob math o lefydd a chorneli yw Acid Casuals.
( lawnsiwyd eu label ffasiwn dro’n ôl yn Tokyo ; yn Efrog Newydd yr heuwyd hadau’u gweithgareddau cynhyrchu fideos ; plethwyd hyn oll yn un weledigaeth ddisglair yn sgîl creu ‘CAPSULE’ ( bar, caffi, gofod perfformio ac arddangos celf ) yng Nghaerdydd).
Mae nhw wedi rhyddhau cerddoriaeth o’r blaen ( record 12” ar Novamute llynedd ) ond hon yw eu record hir gyntaf ; ac mae hi’n hollol, hollol hudolus.

Yn ôl Kev Tame ( cyd-gyfansoddwr a chyd-gynhyrchydd ), blodeuodd ‘OMNI’ ar gefn cyfnod o flinder llwyr a chwyslyd tua Nadolig 2004.
Daeth pethau ynghyd yn Stiwdios Pleasure Foxx lle aethpwyd ar daith rownd yr holl onglau cerddorol gan esgor ar y talp disglair sydd yn eich dwylo heddiw.

Meddai Cian Ciaran ( hanner arall gweledigaeth gerddorol Acid Casuals )…mae mwyafrif y traciau yma wedi bod yn ymgasglu a datblygu dros y blynyddoedd diwethaf ar gyfrifiaduron a phob math o beiriannau. Yn y pendraw fe lwyddon ni i fod yn yr un ‘stafell am wythnos gron gan greu rhywbeth tebyg i gyfanwaith ( beth bynnag yw hynny ).
Does dim syniad o gwbl gynnon ni be’ ddaw nesa – ymateb ydyn ni…ymateb i emosiynnau a sut ma’ petha’n mynd ar y cwrs golff.

O’i gymharu â’r stwff cynharach mae deg trac ‘OMNI’ yn fwy o fudlosgiad melodaidd ; yn ymchwyddo’n donnau tew a blasus i gymaint o wahanol gyfeiriadau…
Meddai Cian.,“ gwrandwch ar yr haenau, yna trowch o fyny a gwrandwch eto, ac eto….”

Yn gerddorol mae drws Acid Casuals led y pen ar agor….gan groesawi ystod ardderchog a lliwgar o gerddorion a chyfranwyr i beth bynnag sy’ mynd ymlaen...a doedd proses creu ‘OMNI’ yn ddim gwahanol. Ond yn ôl Kev gall hyn weithio’r ffordd arall rownd hefyd
-roedd GLC yn yr ardal, yn paratoi i gyfrannu ychydig o’u lliwiau cerddorol nhw i’r trac “ Long Time No See”…ond fel digwyddodd pethau, canlyniad hyn oedd y bu i Acid Casuals ail-gymysgu ’u sengl nhw(GLC) – “Your Missus Is A Nutter”.

“Yr oll sy’n angenrheidiol yw ein bod ni’n gwneud y gorau gallwn ni ar y pryd…unwaith y mae wedi’i orffen a’i ryddhau, ry’n ni’n barod i symud ‘mlaen…ymlaen i’r profiad Acid Casuals nesa’…

Mae Acid Casuals hefyd wedi rhyddhau record 12" ( nifer cyfyngedig ) : 'BOWL ME OVER'

 

OMNI

Placid Casual